Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 13A(8) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, i'w gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

2014 Rhif (Cy. )

TRETH GYNGOR, CYMRU

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig”) a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Cynllun Diofyn”) a wnaed o dan adran 13A(4) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ac Atodlen 1B i’r Ddeddf honno.

 Mae’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig yn gwneud yn ofynnol bod pob awdurdod bilio yng Nghymru yn gwneud cynllun sy’n pennu pa ostyngiadau a fydd yn gymwys i’r symiau o’r dreth gyngor a fydd yn daladwy gan bersonau, neu ddosbarthiadau o bersonau, yr ystyria’r awdurdod eu bod mewn angen ariannol. Mae’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig hefyd yn pennu pa faterion y mae’n rhaid eu cynnwys mewn cynllun o’r fath.

 Mae’r Rheoliadau Cynllun Diofyn yn pennu cynllun a fydd yn cael effaith mewn perthynas ag anheddau yn ardal awdurdod bilio, os yw’r awdurdod yn methu â gwneud cynllun ei hunan ar 31 Ionawr 2014, neu cyn hynny.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a’r Rheoliadau Cynllun Diofyn. Mae’r diwygiadau yn rheoliadau 5 a 16 yn diwygio’r rhestr o bersonau nad oes angen iddynt ddangos eu bod yn breswylwyr arferol, yn gyntaf drwy ddiweddaru’r ddarpariaeth ar gyfer personau sydd â chaniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig, ac yn ail drwy gynnwys y gwladolion Croatia hynny sy’n ddarostyngedig i’r cynllun awdurdodi gweithwyr ac a drinnir fel gweithwyr o dan y cynllun hwnnw.

Mae’r diwygiadau yn rheoliadau 6(a), 7, 9(a), 10(a), (b) a (d) i (f), 17, 27 a 28(a), (b) a (d) i (f) yn cynyddu rhai o’r ffigurau a ddefnyddir wrth gyfrifo a oes gan berson hawl ai peidio i gael gostyngiad, a swm unrhyw ostyngiad. Mae’r ffigurau uwchraddedig yn ymwneud â didyniadau annibynyddion (sef addasiadau i uchafswm y gostyngiad y mae hawl gan berson i’w gael, er mwyn cymryd i ystyriaeth oedolion sy’n byw yn yr annedd ac nad ydynt yn ddibynyddion y ceisydd); ac â’r swm cymwysadwy mewn perthynas â chais am ostyngiad (sef y swm y cymherir incwm ceisydd gyferbyn ag ef, er mwyn penderfynu swm y gostyngiad y mae hawl gan y ceisydd i’w gael).

Mae’r diwygiadau a wneir gan reoliadau 8,11,31 a 32 yn darparu ar gyfer diystyru taliadau penodol a wneir gan lywodraeth leol at ddibenion lles, ôl-ddyledion credyd cynhwysol penodol a thaliadau ar sail oed penodol wrth asesu cyfalaf ceisydd.

Mae’r diwygiadau yn rheoliadau 3, 4, 6(b), 9(b), 10(c), 12, 14, 15, 18 i 26, 28(c), 29 a 30 yn cywiro gwallau a ymddangosodd yn y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a’r Rheoliadau Cynllun Diofyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o gostau a buddion tebygol cydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Cyllid Llywodraeth Leol a Pherfformiad Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


 Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 13A(8) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, i'w gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

2014 Rhif (Cy. )

TRETH GYNGOR, CYMRU

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2014

Gwnaed                                                       ***

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)             

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 13A(4) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992([1]) a pharagraff 6 o Atodlen 1B i’r Ddeddf honno.

Yn unol ag adran 13A(8) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a chymeradwywyd ef drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2014.

(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013

2. Diwygir Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013([2]) yn unol â rheoliadau 3 i 12.

3. Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—

(a)     yn lle paragraff (c) o’r diffiniad o “ysbyty annibynnol” (“independent hospital”) rhodder—

(c) yn yr Alban, gwasanaeth gofal iechyd annibynnol neu ysbyty seiciatrig preifat fel y’u diffinnir gan adran 10F(2) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978 ([3]);;

(b)     yn y diffiniad o “rhent” (“rent”), yn lle “rheoliad 12” rhodder “rheoliad 12B”.

4. Yn rheoliad 8 (aelwydydd)—

(a)     ym mharagraff 2(a), ar ôl “letya” mewnosoder “neu ei leoli”;

(b)     ym mharagraff (5)—

                           (i)    hepgorer “a” ar ôl is-baragraff (o); a

                         (ii)    ar ôl is-baragraff (o), mewnosoder—

(oa)  Deddf Gwrandawiadau Plant (Yr Alban) 2011([4]); a.

5. Yn rheoliad 28 (personau sydd i’w trin fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr)—

(a)     yn lle paragraff (5)(e) rhodder—

(e) yn berson y rhoddwyd iddo, neu’r ystyrir y rhoddwyd iddo, ganiatâd y tu allan i’r rheolau a wnaed o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971([5]), pan fo’r caniatâd hwnnw yn—

                       (i)  caniatâd disgresiynol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi,

                      (ii)  caniatâd i aros o dan y consesiwn Amddifadedd Trais Domestig([6]), neu

                     (iii)  caniatâd yr ystyrir y’i rhoddwyd yn rhinwedd rheoliad 3 o Reoliadau Personau a Ddadleolwyd (Diogelu Dros Dro) 2005([7]);;

(b)     hepgorer paragraff (5)(h);

(c)     hepgorer paragraff (5)(i);

(d)     ar ôl paragraff (5)(j) mewnosoder—

(k) yn berson a drinnir fel gweithiwr at ddibenion y diffiniad o “qualified person” yn rheoliad 6(1) o’r Rheoliadau AEE yn unol â rheoliad 5 o Reoliadau Ymaelodaeth Croatia (Mewnfudo ac Awdurdodi Gweithwyr) 2013([8]) (hawl preswylio Croatiad sy’n “wladolyn gwladwriaeth ymaelodol yn ddarostyngedig i awdurdodi gweithwyr”).

6. Yn Atodlen 1 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, swm unrhyw ostyngiad, a chyfrifo incwm a chyfalaf: pensiynwyr)—

(a)     ym mharagraff 3 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr)—

                           (i)    yn is-baragraff (1)(a) yn lle “£10.95” rhodder “£11.30”;

                         (ii)    yn is-baragraff (1)(b) yn lle “£3.65” rhodder “£3.75”;

                       (iii)    yn is-baragraff (2)(a) yn lle “£186.00” rhodder “£188.00”;

                        (iv)    yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£186.00”, “£322.00” a “£7.25” rhodder “£188.00”, “£326.00” a “£7.50” yn eu trefn;

                          (v)    yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£322.00”, “£401.00” a “£9.15” rhodder “£326.00”, “£406.00” a “£9.45” yn eu trefn;

                        (vi)    yn is-baragraff (7)(d)(i) yn lle “rheoliad 24(6)” rhodder “rheoliad 26(6)”;

(b)     ym mharagraff 10(1)(v)(iii) (ystyr “incwm”: pensiynwyr), yn y testun Cymraeg, yn lle “ar ôl talu rhent” rhodder “am dalu rhent”;

(c)     ym mharagraff 11(3)(b)(iii) (cyfrifo incwm wythnosol: pensiynwyr), yn y testun Cymraeg, yn lle “ganiatáu” rhodder “alluogi”;

(d)     ym mharagraff 14(1)(b) (cyfrifo enillion enillwyr hunangyflogedig: pensiynwyr), yn y testun Cymraeg, yn lle “dros ba bynnag gyfnod” rhodder “dros ba bynnag gyfnod arall”;

(e)     ym mharagraff 19(14)(c) (trin costau gofal plant: pensiynwyr), yn lle “o Ddeddf Llywodraeth Leol (Yr Alban) 1994” rhodder “o Ddeddf Llywodraeth Leol etc. (Yr Alban) 1994([9])”;

(f)      ym mharagraff 24(4)(a) (cyfrifo didyniad treth a chyfraniadau enillwyr hunangyflogedig), yn lle “baragraff 23(3)(a) neu, yn ôl fel y digwydd, paragraff 23(4)” rhodder “baragraff 23(2)(a) neu, yn ôl fel y digwydd, paragraff 23(3)”.

7. Yn Atodlen 2 (Symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—

(a)     yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfans personol)—

                           (i)    yn is-baragraff (1) yn lle “£145.40” a “£163.50” rhodder “£148.35” a “£165.15” yn eu trefn;

                         (ii)    yn is-baragraff (2) yn lle “£222.05” a “£244.95” rhodder “£226.50” a “£247.20” yn eu trefn;

                       (iii)    yn is-baragraff (3) yn lle “£222.05” a “£76.65” rhodder “£226.50” a “£78.15” yn eu trefn;

                        (iv)    yn is-baragraff (4) yn lle “£244.95” ac “£81.45” rhodder “£247.20” ac “£82.05” yn eu trefn;

(b)     yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 2 (symiau plentyn neu berson ifanc), yn lle “£65.62” ym mhob man lle mae’n digwydd rhodder “£66.33”;

(c)     yn yr ail golofn o’r Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3)—

                           (i)    yn is-baragraff (1) yn lle “£59.50” ym mhob man lle mae’n digwydd rhodder “£61.10” ac yn lle “£119.00” rhodder “£122.20”;

                         (ii)    yn is-baragraff (2) yn lle “£23.45” rhodder “£24.08”;

                       (iii)    yn is-baragraff (3) yn lle “£57.89” rhodder “£59.50”;

                        (iv)    yn is-baragraff (4) yn lle “£33.30” rhodder “£34.20”.

8. Yn Atodlen 5 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr)—

(a)     ym mharagraff 21—

                           (i)    yn is-baragraff (1)(e) yn lle “.” rhodder “;”;

                         (ii)    ar ôl is-baragraff (1)(e) mewnosoder—

(f) ar ffurf cymorth achlysurol, gan gynnwys ôl-ddyledion a thaliadau yn lle cymorth achlysurol.;

                       (iii)    ar ddiwedd is-baragraff (2)(n) hepgorer “neu”;

                        (iv)    yn is-baragraff (2)(o) yn lle “.” rhodder “;”;

                          (v)    ar ôl is-baragraff (2)(o) mewnosoder—

(p) taliadau o’r gronfa gymdeithasol o dan Ran 8 o DCBNC; neu;

(q)  credyd cynhwysol.;

(b)     ym mharagraff 22—

                           (i)    yn is-baragraff (2)(e) yn lle “,” rhodder “;”;

                         (ii)    ar ôl is-baragraff (2)(e) mewnosoder—

(f) paragraff 18 o Atodlen 10 i Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013([10]),”;

(c)     Ar ôl paragraff 32 mewnosoder—

33. Unrhyw daliad a wneir gan y Trysorlys i’r ceisydd neu i bartner y ceisydd o dan Reoliadau Taliadau ar Sail Oed 2013([11]) (Equitable Life) fel derbynnydd blwydd-dal Equitable Life cymwys.

9. Yn Atodlen 6 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, swm unrhyw ostyngiad, a chyfrifo incwm a chyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)     ym mharagraff 5 (didyniadau annibynyddion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

                           (i)    yn is-baragraff (1)(a) yn lle “10.95” rhodder “£11.30”;

                         (ii)    yn is-baragraff (1)(b) yn lle “£3.65” rhodder “£3.75”;

                       (iii)    yn is-baragraff (2)(a) yn lle “£186.00” rhodder “£188.00”;

                        (iv)    yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£186.00”, “£322.00” a “£7.25” rhodder “£188.00”, “£326.00” a “£7.50” yn eu trefn;

                          (v)    yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£322.00”, “£401.00” a “£9.15” rhodder “£326.00”, “£406.00” a “£9.45” yn eu trefn;

                        (vi)    yn is-baragraff (7)(d)(i) yn lle “rheoliad 24(6)” rhodder “rheoliad 26(6)”;

 

 

(b)     ym mharagraff 25(4)(a) (cyfrifo didyniad treth a chyfraniadau enillwyr hunangyflogedig), yn lle “is-baragraff (3)(a) neu, yn ôl fel y digwydd, is-baragraff (5) o baragraff 24” rhodder “is-baragraff (3)(a) neu, yn ôl fel y digwydd, is-baragraff (4) o baragraff 24”.

10. Yn Atodlen 7 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)     yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—

                           (i)    yn is-baragraff (1) yn lle “£71.70” ym mhob man lle mae’n digwydd rhodder “£72.40” ac yn lle “£56.80” rhodder “£57.35”;

                         (ii)    yn is-baragraff (2) yn lle “£71.70” rhodder “£72.40”;

                       (iii)    yn is-baragraff (3) yn lle “£112.55” rhodder “£113.70”;

(b)     yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 3 (lwfansau personol), yn lle “£65.62” ym mhob man lle mae’n digwydd rhodder “£66.33”;

(c)     ym mharagraff 10(2) (amod ychwanegol ar gyfer y premiwm anabledd), yn lle “is-baragraff (1)(a)(vi)” rhodder “is-baragraff (1)(a)(vii)”;

(d)     yn yr ail golofn o’r Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3)—

                           (i)    yn is-baragraff (1) yn lle “£31.00” a “£44.20” rhodder “£31.85” a “£45.40” yn eu trefn;

                         (ii)    yn is-baragraff (2) yn lle “£59.50” ym mhob man lle mae’n digwydd rhodder “£61.10” ac yn lle “£119.00” rhodder “£122.20”;

                       (iii)    yn is-baragraff (3) yn lle “£57.89” rhodder “£59.50”;

                        (iv)    yn is-baragraff (4) yn lle “£33.30” rhodder “£34.20”;

                          (v)    yn is-baragraff (5) yn lle “£23.45”, “£15.15” a “£21.75” rhodder “£24.08”, “£15.55” a “£22.35” yn eu trefn;

(e)     ym mharagraff 23 (swm yr elfen gweithgaredd perthynol i waith), yn lle “£28.45” rhodder “£28.75”;

(f)      ym mharagraff 24 (swm yr elfen gymorth), yn lle “£34.80” rhodder “£35.75”.

11. Yn Atodlen 10 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)     ar ôl paragraff 2 mewnosoder—

(2A) Unrhyw daliad a wnaed i’r ceisydd mewn perthynas ag unrhyw deithio neu dreuliau eraill a dynnwyd, neu sydd i’w tynnu, gan y ceisydd mewn perthynas â chyfranogiad y ceisydd mewn cynllun a ragnodir yn rheoliad 3 o Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith (Cynlluniau i Gynorthwyo Personau i Gael Cyflogaeth) 2013([12]) ond am 52 o wythnosau yn unig gan ddechrau gyda dyddiad derbyn y taliad.

(b)     ym mharagraff 12—

                           (i)    yn is-baragraff (1)(f) yn lle “,” rhodder “;”;

                         (ii)    ar ôl is-baragraff (1)(f) mewnosoder—

(g) credyd cynhwysol,;

(c)     ar ôl paragraff 62 mewnosoder—

63. Unrhyw daliad a wneir gan y Trysorlys i’r ceisydd neu i bartner y ceisydd o dan Reoliadau Taliadau ar Sail Oed 2013 (Equitable Life) fel derbynnydd blwydd-dal Equitable Life cymwys.

12. Yn Atodlen 11 (myfyrwyr)—

(a)     ym mharagraff 9 (trin benthyciadau myfyriwr)—

                           (i)    yn is-baragraff (2)(b) hepgorer “, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae i “chwarter” yr ystyr a roddir i “quarter” at ddibenion Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2005”;

                         (ii)    ar ôl is-baragraff (5) mewnosoder—

(6) At ddibenion y paragraff hwn ystyr “chwarter” (“quarter”) mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw cyfnod yn y flwyddyn honno sydd —

(a)   yn dechrau ar 1 Ionawr ac yn diweddu ar 31 Mawrth;

(b)  yn dechrau ar 1 Ebrill ac yn diweddu ar 30 Mehefin;

(c)   yn dechrau ar 1 Gorffennaf ac yn diweddu ar 31 Awst; neu

(d)  yn dechrau ar 1 Medi ac yn diweddu ar 31 Rhagfyr.;

(b)     ym mharagraff 10 (trin benthyciadau ffioedd), yn lle “Orchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1988” rhodder “Orchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998”.

Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013

13. Diwygir y cynllun a bennir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013([13]) yn unol â rheoliadau 14 i 32.

14. Ym mharagraff 2(1) (dehongli)—

 

(a)     yn lle paragraff (c) o’r diffiniad o “ysbyty annibynnol” (“independent hospital”) rhodder—

(c) yn yr Alban, gwasanaeth gofal iechyd annibynnol neu ysbyty seiciatrig preifat fel y’u diffinnir gan adran 10F(2) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978([14]);;

(b)     yn y diffiniad o “rhent” (“rent”), yn lle “rheoliad 12” rhodder “rheoliad 12B”.

15. Ym mharagraff 8 (aelwydydd)—

(a)     yn is-baragraff (2)(a) ar ôl “letya” mewnosoder “neu ei leoli”;

(b)     yn is-baragraff (5)—

                           (i)    hepgorer “a” ar ôl paragraff (o); a

                         (ii)    ar ôl paragraff (o) mewnosoder—

                       (iii)    (oa) Deddf Gwrandawiadau Plant (Yr Alban) 2011([15]); a.

16. Ym mharagraff 19 (dosbarth o bersonau a eithrir o’r cynllun hwn: personau sydd i’w trin fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr)—

(a)     Yn lle is-baragraff (5)(e) rhodder—

(e) yn berson y rhoddwyd iddo, neu’r ystyrir y rhoddwyd iddo, ganiatâd y tu allan i’r rheolau a wnaed o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971([16]), pan fo’r caniatâd hwnnw yn—

                       (i)  caniatâd disgresiynol i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi,

                      (ii)  caniatâd i aros o dan y consesiwn Amddifadedd Trais Domestig([17]), neu

                     (iii)  caniatâd yr ystyrir y’i rhoddwyd yn rhinwedd rheoliad 3 o Reoliadau Personau a Ddadleolwyd (Diogelu Dros Dro) 2005([18]);;

(b)     hepgorer is-baragraff (5)(h);

(c)     hepgorer is-baragraff (5)(i);

(d)     ar ôl is-baragraff (5)(j) mewnosoder—

(k) yn berson a drinnir fel gweithiwr at ddibenion y diffiniad o “qualified person” yn rheoliad 6(1) o’r Rheoliadau AEE yn unol â rheoliad 5 o Reoliadau Ymaelodaeth Croatia (Mewnfudo ac Awdurdodi Gweithwyr) 2013([19]) (hawl preswylio Croatiad sy’n wladolyn gwladwriaeth ymaelodol yn ddarostyngedig i awdurdodi gweithwyr).

17. Ym mharagraff 28 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)     yn is-baragraff (1)(a) yn lle “£10.95” rhodder “£11.30”;

(b)     yn is-baragraff (1)(b) yn lle “£3.65” rhodder “£3.75”;

(c)     yn is-baragraff (2)(a) yn lle “£186.00” rhodder “£188.00”;

(d)     yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£186.00”, “£322.00” a “£7.25” rhodder “£188.00”, “£326.00” a “£7.50” yn eu trefn;

(e)     yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£322.00”, “£401.00” a “£9.15” rhodder “£326.00”, “£406.00” a “£9.45” yn eu trefn.

18. Ym mharagraff 55(14)(c) (trin costau gofal plant), yn lle “o Ddeddf Llywodraeth Leol (Yr Alban) 1994” rhodder “o Ddeddf Llywodraeth Leol etc (Yr Alban) 1994([20])”.

19. Ym mharagraff 59(4)(a) (cyfrifo didyniad treth a chyfraniadau enillwyr hunangyflogedig), yn lle “is-baragraff (3)(a) neu, yn ôl fel y digwydd, is-baragraff (5) o baragraff 58” rhodder “is-baragraff (3)(a) neu, yn ôl fel y digwydd, is-baragraff (4) o baragraff 58”.

20. Ym mharagraff 64(4)(e) (cyfalaf tybiannol), yn lle “ym mharagraff 49(1)(a)” rhodder “ym mharagraff 49(a)”.

21. Ym mharagraff 65(10)(b) (rheol lleihau cyfalaf tybiannol: pensiynwyr), yn lle “is-baragraff (5)(b)” rhodder “is-baragraff (5)(c)”.

22. Ym mharagraff 70(1) (dehongli), yn is-baragraff (b) o’r diffiniad o “full-time course of study” (“cwrs astudio llawn amser”), yn y testun Saesneg, yn lle “Education Act 2012” rhodder “Education Act 2002”.

23. Ym mharagraff 78 (trin benthyciadau myfyrwyr)—

(a)     yn is-baragraff (2)(b) hepgorer “, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae i “chwarter” yr ystyr a roddir i “quarter” at ddibenion Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2005”;

(b)     ar ôl is-baragraff (5) mewnosoder—

(6) At ddibenion y paragraff hwn ystyr “chwarter” (“quarter”) mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw cyfnod yn y flwyddyn honno sydd—

(a)   yn dechrau ar 1 Ionawr ac yn diweddu ar 31 Mawrth;

(b)  yn dechrau ar 1 Ebrill ac yn diweddu ar 30 Mehefin;

(c)   yn dechrau ar 1 Gorffennaf ac yn diweddu ar 31 Awst; neu

(d)  yn dechrau ar 1 Medi ac yn diweddu ar 31 Rhagfyr..

24. Ym mharagraff 79 (trin benthyciadau ffioedd), yn lle “Orchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1988” rhodder “Orchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998”.

25. Ym mharagraff 97(1) (y berthynas rhwng gostyngiad estynedig a hawlogaeth i ostyngiad yn rhinwedd perthyn i ddosbarth C neu D), yn y testun Cymraeg, yn lle “ym mharagraff 93(1)(b)” rhodder “ym mharagraff 93(1)(b) (gostyngiadau estynedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr)”.

26. Yn lle’r pennawd ar gyfer paragraff 103 “Gostyngiadau estynedig: symudwyr i mewn i ardal awdurdod: personau nad ydynt yn bensiynwyr” rhodder “Gostyngiadau estynedig: symudwyr i mewn i ardal awdurdod: pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr”.

27. Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—

(a)     yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfans personol)—

                           (i)    yn is-baragraff (1) yn lle “£145.40” a “£163.50” rhodder “£148.35” a “£165.15” yn eu trefn;

                         (ii)    yn is-baragraff (2) yn lle “£222.05” a “£244.95” rhodder “£226.50” a “£247.20” yn eu trefn;

                       (iii)    yn is-baragraff (3) yn lle “£222.05” a “£76.65” rhodder “£226.50” a “£78.15” yn eu trefn;

                        (iv)    yn is-baragraff (4) yn lle “£244.95” ac “£81.45” rhodder “£247.20” ac “£82.05” yn eu trefn;

(b)     yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 2 (symiau plentyn neu berson ifanc), yn lle “£65.62” ym mhob man lle mae’n digwydd rhodder “£66.33”;

(c)     yn yr ail golofn o’r Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3)—

                           (i)    yn is-baragraff (1) yn lle “£59.50” ym mhob man lle mae’n digwydd rhodder “£61.10” ac yn lle “£119.00” rhodder “£122.20”;

                         (ii)    yn is-baragraff (2) yn lle “£23.45” rhodder “£24.08”;

                       (iii)    yn is-baragraff (3) yn lle “£57.89” rhodder “£59.50”;

                        (iv)    yn is-baragraff (4) yn lle “£33.30” rhodder “£34.20”.

28. Yn Atodlen 3 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)     yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—

                           (i)    yn is-baragraff (1) yn lle “£71.70” ym mhob man lle mae’n digwydd rhodder “£72.40” ac yn lle “£56.80” rhodder “£57.35”;

                         (ii)    yn is-baragraff (2) yn lle “£71.70” rhodder “£72.40”;

                       (iii)    yn is-baragraff (3) yn lle “£112.55” rhodder “£113.70”;

(b)     yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 3 (lwfansau personol), yn lle “£65.62” ym mhob man lle mae’n digwydd rhodder “£66.33”;

(c)     ym mharagraff 10(2) (amod ychwanegol ar gyfer y premiwm anabledd), yn lle “is-baragraff (1)(a)(vi)” rhodder “is-baragraff (1)(a)(vii)”;

(d)     yn yr ail golofn o’r Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3)—

                           (i)    yn is-baragraff (1) yn lle “£31.00” a “£44.20” rhodder “£31.85” a “£45.40” yn eu trefn;

                         (ii)    yn is-baragraff (2) yn lle “£59.50” ym mhob man lle mae’n digwydd rhodder “£61.10” ac yn lle “£119.00” rhodder “£122.20”;

                       (iii)    yn is-baragraff (3) yn lle “£57.89” rhodder “£59.50”;

                        (iv)    yn is-baragraff (4) yn lle “£33.30” rhodder “£34.20”;

                          (v)    yn is-baragraff (5) yn lle “£23.45”, “£15.15” a “£21.75” rhodder “£24.08”, “£15.55” a “£22.35” yn eu trefn;

(e)     ym mharagraff 23 (swm yr elfen gweithgaredd perthynol i waith), yn lle “£28.45” rhodder “£28.75”;

(f)      ym mharagraff 24 (swm yr elfen gymorth), yn lle “£34.80” rhodder “£35.75”.

29. Ym mharagraff 9(1) o Atodlen 6 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr), yn lle “paragraffau 4, 6, 7 a 9” rhodder “paragraffau 4, 5, 6 a 7”.

30. Yn Atodlen 7 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)     ym mharagraff 32(e), yn y testun Saesneg, yn lle “section 18” rhodder “ section 18(2)(c)”;

(b)     ym mharagraff 40 yn lle “paragraff 78(3)” rhodder “paragraff 80(3)”.

31. Yn Atodlen 8 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr)—

(a)     ym mharagraff 21—

                           (i)    yn is-baragraff (1)(e) yn lle “.” rhodder “;”;

                         (ii)    ar ôl is-baragraff (1)(e) mewnosoder—

(f) ar ffurf cymorth achlysurol, gan gynnwys ôl-ddyledion a thaliadau yn lle cymorth achlysurol.;

                       (iii)    ar ddiwedd is-baragraff (2)(n) hepgorer “neu”;

                        (iv)    yn is-baragraff (2)(o) yn lle “.” rhodder “;”;

                          (v)    ar ôl is-baragraff (2)(o) mewnosoder—

(p) taliadau o’r gronfa gymdeithasol o dan Ran 8 o DCBNC; neu;

(q)  credyd cynhwysol.;

(b)     ym mharagraff 22—

                           (i)     yn is-baragraff (2)(d) yn lle “,” rhodder “;”;

                         (ii)    yn is-baragraff (2)(e) yn lle “,” rhodder “;”;

                       (iii)    ar ôl is-baragraff (2)(e) mewnosoder—

(f) paragraff 18 o Atodlen 10 i Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013([21]),”;

(c)     Ar ôl paragraff 32 mewnosoder—

33. Unrhyw daliad a wneir gan y Trysorlys i’r ceisydd neu i bartner y ceisydd o dan Reoliadau Taliadau ar Sail Oed 2013([22]) (Equitable Life) fel derbynnydd blwydd-dal Equitable Life cymwys. 

32. Yn Atodlen 9 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)     Ar ôl paragraff 2 mewnosoder—

(2A)  Unrhyw daliad a wnaed i’r ceisydd mewn perthynas ag unrhyw deithio neu dreuliau eraill a dynnwyd, neu sydd i’w tynnu, gan y ceisydd mewn perthynas â chyfranogiad y ceisydd mewn cynllun a ragnodir yn rheoliad 3 o Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith (Cynlluniau i Gynorthwyo Personau i Gael Cyflogaeth) 2013([23]) ond am 52 o wythnosau yn unig gan ddechrau gyda dyddiad derbyn y taliad.;

(b)     ym mharagraff 12—

                           (i)    yn is-baragraff (1)(f) yn lle “,” rhodder “;”;

                         (ii)    ar ôl is-baragraff (1)(f) mewnosoder—

(g) credyd cynhwysol,;

(c)     ar ôl paragraff 62 mewnosoder—

63. Unrhyw daliad a wneir gan y Trysorlys i’r ceisydd neu i bartner y ceisydd o dan Reoliadau Taliadau ar Sail Oed 2013 (Equitable Life) fel derbynnydd blwydd-dal Equitable Life cymwys.

 

 

 

 

Lesley Griffiths

 

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru

Dyddiad



([1])           1992 p.14. Amnewidiwyd adran 13A gan adran 10(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (p.17), a mewnosodwyd Atodlen 1B gan adran 10(2) o’r Ddeddf honno ac Atodlen 4 iddi.

([2])           O.S. 2013/3029  (Cy. 301).

([3])           1978 p.29; mewnosodwyd adran 10F gan adran 108 o Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010 (dsa 8).

([4])           2011 dsa 1.

([5])           1971 p.77.

([6])           Cyhoeddir y consesiwn Amddifadedd Trais Domestig gan y Swyddfa Gartref yn http://ukba.homeoffice.gov.uk/.

([7])           O.S. 2005/1379 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2013/630 ac offerynnau diwygio eraill nad ydynt yn berthnasol i’r diwygiad hwn.

([8])           O.S. 2013/1460.

([9])           1994 p.39.

([10])         O.S. 2013/376.

([11])         O.S. 2013/2980.

([12])         O.S. 2013/276.

([13])         O.S. 2013/3035 (Cy.303).

([14])         1978 p.29; mewnosodwyd adran 10F gan adran 108 o Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010 (dsa 8).

([15])         2011 dsa 1.

([16])         1971 c.77.

([17])         Cyhoeddir y consesiwn Amddifadedd Trais Domestig gan y Swyddfa Gartref yn http://ukba.homeoffice.gov.uk/.

([18])         O.S. 2005/1379 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2013/630 ac offerynnau diwygio eraill nad ydynt yn berthnasol i’r diwygiad hwn.

([19])         O.S. 2013/1460.

([20])         1994 p.39.

([21])         O.S. 2013/376.

([22])         O.S. 2013/2980.

([23])         O.S. 2013/276.